Gwefan yn Gwneud Newidiadau Ar hyn o bryd.
Yn dod yn fuan!
Website is Currently Undertaking Changes.
Coming Soon!
Mae 2023 yn flwyddyn fawr i Artis Community Cymuned ac YMCA Pontypridd wrth i ni gyfri’r dyddiau at symud i’n cartref newydd yn YMa. Rydym yn chwilio am bobl sy'n credu'n angerddol yng ngrym creadigrwydd i ymuno â ni ar ein taith o rannu sgiliau a hyrwyddo'r celfyddydau a diwylliant o fewn cymunedau Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
A yw hyn yn rhywbeth yr ydych yn angerddol amdano? Os ydyw, darllenwch ymlaen os gwelwch yn dda, rydyn ni WIRIONEDDOL eisiau clywed gennych chi! Yn ôl am hyn rydym yn addo hyfforddiant, cyfeillgarwch a llawer o rannu a chyfleoedd cyffrous i ddod â’ch syniadau creadigol yn fyw..
Ydych chi'n angerddol am y celfyddydau? Ydych chi'n byw yn Rhondda Cynon Taf neu Ferthyr Tudful? Hoffech chi gynrychioli eich cymuned, dysgu sgiliau newydd a llunio dyfodol cartref newydd Artis Community yn adeilad yr YMCA gwerth miliynau o bunnoedd yng nghanol Pontypridd? Os mai 'ydw' yw'r ateb, yna rydyn ni eisiau clywed gennych chi!
Mae Artis Community Cymuned yn dymuno recriwtio tîm o Lysgenhadon Creadigol i’n helpu i hyrwyddo ein cartref newydd yn YMa. Sut y dylid defnyddio’r adeilad? Beth hoffech chi weld? Pe byddech chi yng ngofal ein penwythnos agoriadol, sut fyddech chi’n cyflwyno’r byd i gelfyddydau a diwylliant yn eu holl ffurf yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful?
Drwy ddod yn Llysgennad Creadigol ar gyfer Artis, gallwch wireddu eich gweledigaeth a’ch syniadau a chwarae rhan bwysig wrth helpu i hyrwyddo, siapio a llunio sut mae adeilad newydd YMCA ym Mhontypridd yn cyflwyno ei dymor agoriadol.
Rydym yn edrych am geisiadau o bob rhan o’r cymunedau amrywiol yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Dymunwn recriwtio tîm mor amrywiol o Lysgenhadon Creadigol ag sydd modd i gynrychioli’n llawn amrywiaeth gyfoethog ein cymunedau yn cynnwys y gymuned Gymraeg, LGBTQI+, BAME, Byddar/anabl a mwy ar draws pob grŵp oedran.
SUT MAE CYMRYD RHAN?
Os yw hyn yn swnio fel chi, yna cysylltwch ag info@artiscommunity.org.uk neu gofrestru yma. Os byddwch yn llwyddiannus byddwch yn dysgu sgiliau newydd ac yn derbyn hyfforddiant drwy ein hybiau penodol ar gyfer y celfyddydau creadigol, penodol i ddiwydiant gyda’n tîm o weithwyr celfyddydau proffesiynol yn Artis. Edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Caiff y prosiect ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i weinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Gwirfoddoli yn YMA
Gallwn fod yn hyblyg i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau eraill a chynnig cyfleoedd yn rheolaidd neu'n achlysurol. Gallwn hefyd gynnig mynediad i chi at hyfforddiant a chyfle i ennill sgiliau newydd. Bydd manteision hefyd fel gostyngiadau mewn digwyddiadau dethol yn yr adeilad. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â info@artiscommunity.org.uk.
Nid oes gennym unrhyw swyddi cyflogedig ar gael ar hyn o bryd.