Rhaglen Hyfforddiant EXPLORE - Galwad am Artistiaid Dawns
* Cliciwch yma am y Ffurflen Cydraddoldeb Ar-lein
Galwad am Artistiaid Dawns - Artistiaid wedi’u lleoli yng Nghymru, yn byw yng Nghymru neu sydd â chysylltiadau â Chymru!
Cyflwynir rhaglen EXPLORE mewn partneriaeth rhwng YMa a’r sefydliad cyswllt, Cwmni Dawns Ransack. Mae’r rhaglen yn cynnwys rhannu sgiliau a hyfforddiant ym maes dawns gymunedol ac arferion perfformio dawns, gan hyfforddi ein staff i weithio ar draws y ddau sefydliad.
Bob blwyddyn byddwn yn gwahodd 3 artist annibynnol i’r rhaglen sy’n dymuno datblygu eu sgiliau yn y meysydd hyn.
Rydym bob amser yn awyddus i gysylltu EXPLORE â’n rhaglen ddawns bartneriaeth ehangach, ‘Gyda’n Gilydd’. Mae’r rhaglen yn cynnwys dwy ffrwd; Explore (Archwilio) a Creative Community (Cymuned Greadigol), gan roi cyfle i artistiaid roi eu sgiliau newydd ym maes cynhyrchu a dawns gymunedol ar waith mewn lleoliadau dawns gymunedol go iawn, gan weithio gydag aelodau ein cymuned.
Cyfle hyfforddiant â thâl yw hwn. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cymryd rhan yn y canlynol:
-Cyfleoedd i arsylwi drwy raglen dawns gymunedol YMa. Bydd artistiaid yn arsylwi diwrnod llawn o weithgareddau i brofi’r amrywiaeth o ddosbarthiadau rydym yn eu cynnig, ac yna’n arsylwi un o’n dosbarthiadau yn wythnosol yn ystod tymor y gwanwyn (Ionawr i Fawrth 2027).
- Newydd ar gyfer rhaglen 2027!...Rydym yn cyflwyno modiwl coreograffi cymunedol newydd eleni, lle bydd ymarferwyr dawns YMa yn cefnogi artistiaid i gyd-greu gwaith perfformio gydag un o’n grwpiau dawns gymunedol. Cyflwynir y perfformiadau yn nathliad diwedd y prosiect yn YMa. Cynhelir y gweithgaredd hwn yn wythnosol drwy gydol tymor yr haf (Ebrill i Orffennaf).
-Pum diwrnod hyfforddiant a datblygiad proffesiynol i ehangu gwybodaeth am arferion dawns gymunedol, gan gynnwys hyfforddiant mewn cynllunio a chynnal sesiynau dawns gymunedol, arferion cynhwysol a datblygu cynulleidfaoedd. Bydd yr hyfforddiant hefyd yn cynnwys mynychu diwrnod rhannu ‘Dance without limits’ gan Gwmni Dawns Ransack, lle byddant yn rhannu’r hyn a ddysgwyd o’n taith ryngwladol i Brasil, a ariannwyd gan Taith, fel rhan o’r bartneriaeth.
-Cymryd rhan mewn wythnos hyfforddiant cynhyrchu dawns dan arweiniad Cyfarwyddwr a dawnswyr Cwmni Dawns Ransack, gan archwilio eu harferion creadigol a’u methodolegau. Bydd dosbarth cwmni, gweithdai coreograffi a pherfformio yn rhan o bob diwrnod.
-Cyfle i ymuno â dosbarthiadau cwmni proffesiynol Cwmni Dawns Ransack a gwylio eu hymarferion proffesiynol wrth baratoi ar gyfer eu taith yng ngwanwyn 2027, ‘Us and Them’. (Ionawr)
- Mentora drwy gydol y prosiect gan Gyfarwyddwr Artistig Ransack a Rheolwr Gweithgareddau YMa.
Dyddiadau Allweddol y Prosiect:
-Gweithdy Cyflwyniadol a Sesiwn Gynllunio: 7 Rhagfyr | 9.30 - 1.30pm
-Dosbarth Cwmni a gwylio gyda Ransack drwy gydol mis Ionawr, wedi’u trefnu yn unol ag argaeledd yr artist.
-Gwylio sesiynau cymunedol YMa yn wythnosol drwy gydol tymor y gwanwyn. Anfonir yr amserlen wrth wneud cais.
- Modiwl Coreograffi Cymunedol yn cael ei gynnal yn wythnosol drwy gydol tymor yr haf. Digwyddiad rhannu i ddathlu: Dydd Iau 1 Gorffennaf (amseroedd i’w cadarnhau)
- Diwrnodau hyfforddi Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) mewn Dawns Gymunedol:
- Dydd Mawrth 9 Chwefror 10am - 4pm
- Dydd Llun 19 a dydd Mawrth 20 Ebrill 10am-4pm
- Dydd Gwener 2 Gorffennaf 10am - 4pm
- Wythnos cynhyrchu dawns gyda Chwmni Dawns Ransack: Dydd Llun 12 - dydd Gwener 16 Gorffennaf 10am - 4pm
- Dathliad a Rhannu ‘Gyda’n Gilydd’: Dydd Gwener 23 Gorffennaf (Rhaid bod ar gael yn ystod y dydd a gyda’r nos. Amseroedd i’w cadarnhau)
- Gweithdy Myfyrio a Gwerthuso: Dydd Llun 26 Gorffennaf 10am-1pm
Cynhelir y gweithgareddau uchod yn ein canolfan yn YMa neu mewn lleoliadau cymunedol cyfagos, megis canolfannau dydd ac ysgolion ym Mhontypridd.
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 27 Tachwedd 2026, 5pm
Dyddiadau cyfweld: Dydd Llun 30 Tachwedd neu ddydd Iau 3 Rhagfyr (cyfweliadau ar-lein)
Ffi: £25 yr awr (gwylio)
£170 y dydd (diwrnodau hyfforddi a diwrnod perfformio)
Cyfradd wythnosol o £631 (Wythnos Cynhyrchu Dawns).
Costau teithio ar gael i artistiaid sy’n teithio dros 30 milltir i’r sesiynau
Lawrlwythwch y ffurflenni cais uchod a'u hanfon at: linzi@artiscommunity.org.uk
Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan bobl nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol yn y sector dawns ar hyn o bryd, gan gynnwys pobl Fyddar a phobl anabl, pobl o gymunedau diwylliannol amrywiol, siaradwyr Cymraeg a phobl o’r gymuned LGBTQ+.
Dysgwch fwy am Gwmni Dawns Ransack:
https://www.ransackdance.co.uk/

















